Datgarboneiddio ar gyfer tai cymdeithasol

Cadw eich tenantiaid yn gynhesach ac yn iachach yn eu cartrefi.

Cydlynu ac asesu ôl-osod ar gyfer landlordiaid cymdeithasol

Gall ein harbenigwyr ôl-osod arobryn ddarparu cydlyniad ôl-osod ar gyfer eich cynlluniau datgarboneiddio o fewn gofynion PAS2035:2019 . Rydym yn darparu asesiadau llwybr risg ôl-osod ac asesiadau tŷ cyfan o eiddo cymwys, gan ddarparu llwybr i garbon is sy’n benodol i bob cartref.

Yn ogystal â darparu ein harbenigedd yn ystod y cam cynllunio, byddwn yn goruchwylio gosod technolegau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, yn ymweld â’r safle’n rheolaidd ac yn gwerthuso perfformiad y mesurau newydd.

Bydd eich tenantiaid bob amser wrth wraidd ein gwaith. Rydym yn ystyried eu hamgylchiadau unigol yn ein hargymhellion a gallwn gynnig cyngor pwrpasol am effeithlonrwydd ynni a defnydd ynni yn y cartref. Byddwn yn egluro ein hargymhellion ar gyfer ôl-osod ac yn sicrhau bod preswylwyr yn gyfforddus gyda’r gweithrediad ac yn cael y gorau o unrhyw welliannau.

Bydd ein hargymhellion yn ystyried yr angen am awyru digonol.

WAVE1 SHDF

Fel rhan o ymrwymiad llywodraeth y DU i Net Sero erbyn 2050, mae Cronfa Dadgarboneiddio Tai Cymdeithasol (SHDF) yn anelu at ddarparu cartrefi cynnes ac effeithlon o ran ynni i denantiaid tai cymdeithasol, cartrefi sydd wedi lleihau allyriadau carbon a biliau tanwydd. Nod y SHDF yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a chefnogi twf swyddi gwyrdd.

Fe wnaethon ni weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Cheltenham a Cheltenham Borough Homes i wneud 59 o gartrefi cymdeithasol yn fwy gwyrdd, yn gynhesach ac yn fwy fforddiadwy.