
Cyngor a chymorth
Os oes arnoch angen cymorth er mwyn cadw’n dwym gartref, neu am gyngor ynghylch cymorthdaliadau ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni, neu ‘n poeni am fedru talu’ch biliau ynni, cysylltwch â ni.
Llinellau cymorth am ddim
Mae ein cynghorwyr ynni yma i helpu os ydych mewn argyfwng, gan gynnwys os nad oes gennych wres na phŵer, neu os oes arnoch angen cyngor effeithlonrwydd ynni cyffredinol.
Rydym yn derbyn bron i 10,000 o alwadau i’n llinell gyngor ynni bob blwyddyn, gan roi cyngor a chymorth ar unrhyw beth o fesurau syml i aros yn gynnes (neu’n oer, yn ystod tywydd poeth), cymorth i gael mynediad at gynlluniau ariannu ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni a boeleri newydd.
Rydym hefyd yn rhoi cymorth ymarferol i ddatrys problemau dyled a materion eraill gyda chyflenwyr.
Mae llawer o’r bobl sy’n cysylltu â ni yn fregus oherwydd pryderon iechyd corfforol neu feddyliol, yn aml â phroblemau eraill sy’n gwneud bywyd yn anodd, hefyd.
Gwyddwn y gallai datrys rhywbeth bach olygu llawer.

Cymorth gartref
Os gallwn gynnig ymweliad cartref am ddim i chi, gallwn eich cefnogi gartref gyda dyled tanwydd, grantiau gwresogi ac inswleiddio, a thariffau ynni.
Bydd eich cynghorydd yn gweithio gyda chi i ddatrys problemau a allai fod gennych gyda’ch cyflenwr ynni, gan gynnwys sefydlu cynlluniau talu fforddiadwy a debydau uniongyrchol.
Bydd ein cyngor wedi’i deilwra i chi, lle bynnag rydych chi’n byw a beth bynnag fo’ch amgylchiadau. Bydd eich cynghorydd yn eich helpu i feithrin yr hyder i gymryd rheolaeth o’ch defnydd o ynni yn y dyfodol.
Gall cynghorwyr hefyd gynnig cyngor wyneb yn wyneb trwy apwyntiad neu mewn sesiynau galw heibio mewn lleoliadau lleol.

Ymholiadau brys a chyffredinol
Cliciwch ar eich sir er mwyn canfod pa gyngor sydd ar gael a sut i gysylltu, neu defnyddiwch y ffurflen ar ddiwedd y dudalen hon.
Mae ein cynghorwyr cymunedol yng Ngheredigion yn ymweld â phobl gartref i gynnig cymorth â dyled tanwydd a defnydd ynni.
Ffoniwch ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm i weld a allwn ni gynnig ymweliad cartref am ddim i chi:
0800 170 1600
Os yw’n well gennych yrru neges e-bost: communityadvice@severnwye.org.uk
Neu cwblhewch y ffurflen gyswllt ar ddiwedd y dudalen.
Wedi’u hariannu gan Gynllun Iawndal Gwirfoddol y Diwydiant Ynni
Gall cynghorwyr arbenigol ein llinell gymorth am ddim eich helpu os ydych mewn argyfwng, a darparu cyngor arbed ynni. Efallai y gallent eich cyfeirio chi ar gyfer ymweliad cartref am ddim.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9 y bore tan 5 yr hwyr.
0800 500 3076
Os yw’n well gennych yrru neges e-bost: warmandwell@severnwye.org.uk
Neu cwblhewch y ffurflen gyswllt ar ddiwedd y dudalen.
Grant Lleol Cartrefi Cynnes
Ar gael i drigolion Swydd Gaerloyw a De Swydd Gaerloyw ar incwm isel sy’n byw mewn cartrefi aneffeithlon.
Gall cynghorwyr arbenigol ein llinell gymorth am ddim eich helpu os ydych mewn argyfwng, a darparu cyngor arbed ynni. Efallai y gallent eich cyfeirio chi ar gyfer ymweliad cartref am ddim.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9 y bore tan 5 yr hwyr.
0800 500 3076
Os yw’n well gennych yrru neges e-bost: communityadvice@severnwye.org.uk
Neu cwblhewch y ffurflen gyswllt ar ddiwedd y dudalen.
Mae ein cynghorwyr cymunedol ym Mhowys yn ymweld â phobl gartref i gynnig cymorth â thlodi tanwydd a defnydd ynni.
Galwch ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9 y bore tan 5 yr hwyr, i weld a allwn gynnig ymweliad cartref am ddim i chi:
0800 170 1600
Os yw’n well gennych yrru neges e-bost: communityadvice@severnwye.org.uk
Neu cwblhewch y ffurflen gyswllt ar ddiwedd y dudalen.
Gwybodaeth am arbed ynni
Awgrymiadau arbed ynni
Pethau i’w gwneud ar hyn o bryd am gartref cynnes a diogel.

Adnoddau
Canllawiau effeithlonrwydd ynni sy’n gweithio i bawb.

Astudiaethau achos
Cwrdd â rhai o’r bobl rydyn ni wedi’u helpu.

Ffurflen gyswllt
Dywedwch dipyn wrthym a’r cymorth y mae arnoch ei angen a bydd un o’n cynghorwyr yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallant.