A view of Trawsfynydd, Gwynedd, Wales, one of the communities that took part in the Rural Futures programme.

Cymunedau YnNi

Rydym yn darparu cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddeg cymuned wledig ddifreintiedig yng Nghymru a Lloegr i ddatblygu camau a arweinir gan y gymuned sy’n canolbwyntio ar leihau’r defnydd o ynni a chynhyrchu ynni glân.

Logo ar gyfer rhaglen Cymunedau YnNi / Energized Communities sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

Rhoi ynni wrth galon cymunedau

Mae rhai cymunedau gwledig yn wynebu caledi sylweddol oherwydd diffyg tai fforddiadwy, tlodi tanwydd a bwyd, diffyg cyflogaeth, a mynediad gwael at wasanaethau a thrafnidiaeth. Ac mae llawer yn y cymunedau hyn yn ei chael hi’n anodd yn ariannol – yn enwedig yng ngoleuni codiadau mewn prisiau ynni – ac yn aml yn teimlo’n ddi-rym i weithredu.

Ysbrydoliaeth ar gyfer gweithredoedd a arweinir gan y gymuned

Rydym yn darparu hyfforddiant a mentora i roi’r hyder a’r sgiliau i bobl gymryd rhan mewn cyfarfodydd a grwpiau gweithredu, codi arian a rheoli prosiectau a digwyddiadau.

Bydd ein cefnogaeth ar waith ar gyfer y tymor hir, gan gydnabod bod meithrin syniadau, sgiliau a hyder yn cymryd amser.

Golygfa o Drawsfynydd, Gwynedd, Cymru, un o'r cymunedau a gymerodd ran yn rhaglen Dyfodol Gwledig.

Grwpiau prosiect cymunedol

Byddwn yn rhannu mwy o newyddion drwy’r tudalennau hyn wrth i bob prosiect cymunedol ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Bro Machno, Conwy +

Mae Bro Machno yn gymuned glos yng nghanol Eryri, lle mae trigolion yn cydbwyso manteision twristiaeth â’r angen i amddiffyn diwylliant a chynaliadwyedd lleol. Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect Dyfodol Gwledig, bydd ein cydlynydd lleoedd yn cefnogi’r gymuned i fynd i’r afael â heriau ynni lleol a throi syniadau’n weithredu.

Dyffryn Ceiriog, Wrecsam +

Mae gan Ddyffryn Ceiriog botensial cryf ar gyfer prosiectau ynni gwynt, solar a hydro sy’n eiddo i’r gymuned, ond mae angen cefnogaeth ar bobl leol i droi syniadau’n weithredu. Mae llawer o gartrefi oddi ar y grid nwy ac yn wynebu costau ynni uchel, felly rydym yn gweithio gyda thrigolion i archwilio atebion i heriau ynni lleol a datblygu prosiectau sy’n cadw’r manteision o fewn y gymuned.

Coleford, Swydd Gaerloyw +

Mae Coleford yn dref farchnad yng Nghoedwig Dean lle nad yw llawer o drigolion agored i niwed wedi elwa o fentrau gweithredu ar yr hinsawdd. Trwy bartneriaethau lleol cryf, rydym yn cysylltu â grwpiau cymunedol a gwasanaethau cymorth i gyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen. Bydd ein cydlynydd lleoedd yn gweithio gyda phobl leol i nodi heriau ynni, datblygu atebion a throi syniadau yn weithredu.

Cwmllinau, Powys +

Mae Cwmllinau yn bentref clos ym Miosffer Dyfi gyda hanes cryf o weithredu cymunedol. Gan adeiladu ar waith blaenorol i wella cyfleusterau lleol, rydym yn dychwelyd i gefnogi trigolion i fynd i’r afael â heriau ynni. Gyda llawer o gartrefi yn anodd ac yn ddrud i’w gwresogi, bydd ein cydlynydd lleoedd yn helpu’r gymuned i ddatblygu syniadau ymarferol i leihau costau ynni ac archwilio atebion gwresogi carbon isel.

Y Grysmwnt, Sir Fynwy +

Mae Grosmont yn bentref gwledig yng ngogledd-ddwyrain Sir Fynwy gyda mynediad cyfyngedig at wasanaethau er gwaethaf ei dreftadaeth gyfoethog a’i chymuned gref. Yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol â thrigolion lleol, mae ein cydlynydd lleoedd yn parhau i gefnogi’r gymuned i nodi blaenoriaethau ynni, datblygu syniadau a’u troi’n weithredu.

Llannerchymedd, Ynys Môn +

Mae Llannerchymedd yn gymuned ar Ynys Môn sydd wedi wynebu heriau economaidd yn dilyn canslo cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer Wylfa B. Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect Dyfodol Gwledig, rydym yn dychwelyd i gefnogi trigolion i fynd i’r afael â heriau ynni lleol, gyda’n cydlynydd lleoedd yn helpu i ddatblygu syniadau a’u troi’n weithredu.

Gweler yr effaith y mae Dyfodol Gwledig yn ei chael yma.

Llangollen, Sir Ddinbych +

Gan adeiladu ar lwyddiant ein gwaith Dyfodol Gwledig yn ardal Llangollen, rydym yn dychwelyd i gefnogi cymunedau sy’n wynebu lefelau uchel o amddifadedd a’r argyfwng costau byw parhaus. Gyda phartneriaethau lleol cryf eisoes ar waith, bydd ein cydlynydd lleoedd yn helpu trigolion i nodi heriau ynni, lleihau costau aelwydydd a datblygu atebion dan arweiniad y gymuned.

Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin +

Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect Hybu, rydym yn dychwelyd i Lanymddyfri i gefnogi trigolion i fynd i’r afael â heriau ynni lleol. Bydd ein cydlynydd lleoedd yn helpu’r gymuned i ddatblygu syniadau ymarferol sy’n lleihau costau ynni, yn cefnogi cynhyrchu ynni lleol ac yn dangos sut y gall gweithredu ar yr hinsawdd fod o fudd i bobl a’r cefn gwlad cyfagos.

Sharpness, Swydd Gaerloyw +

Mae Sharpness yn gymuned hanesyddol ar lan yr afon sy’n wynebu heriau newid hinsawdd, gan gynnwys lefelau dŵr yn codi. Gan weithio gyda thrigolion yn Sharpness a’r pentrefi cyfagos, bydd ein cydlynydd lleoedd yn helpu i nodi blaenoriaethau lleol, datblygu atebion dan arweiniad y gymuned a throi syniadau’n weithredu.

Trawsfynydd, Gwynedd +

Mae Trawsfynydd yn gymuned wledig gyda threftadaeth falch sydd wedi wynebu heriau economaidd ers datgomisiynu ei gorsaf bŵer niwclear. Gan adeiladu ar lwyddiant ein gwaith Dyfodol Gwledig, rydym yn dychwelyd i gefnogi trigolion i fynd i’r afael â heriau ynni lleol, gyda’n cydlynydd lleoedd yn helpu’r gymuned i ddatblygu syniadau a’u troi’n weithredu.

Gellir gweld yr effaith mae Dyfodol Gwledig yn ei chael yma

Cwrdd â’r tîm