Cymorthdaliadau newydd Windfall i hybu prosiectau cynaliadwyedd ym Maldwyn

Group of people, all ages, stood together in front of an old red brick building in Pentredwr, Wales

Gellir ymgeisio o heddiw ymlaen i’r prosiect Windfall sy’n cynnig cymorthdaliadau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy’n bennaf. Yn y cylch ariannu cyntaf hwn, gwahoddir grwpiau cymunedol ym Maldwyn i ymgeisio, a rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd cynghorau cymunedol Carno, Caersws, Trefeglwys, Dwyriw, Llanbrynmair a Llanerfyl.

Fe all yr ariennir mentrau carbon isel, cydranedig, cymunedol a theithio llesol, yn ogystal â gweithgareddau addysgiadol sy’n anelu at ddatblygu cynaliadwy. Ymhlith y rhai a gawsant fudd yn y gorffennol mae neuaddau pentref ac adeiladau cymunedol eraill, clybiau pêl-droed, mentrau ynni cydweithredol, sefydliadau hyfforddi a grwpiau gweithredu ynglŷn â’r hinsawdd. Gallai ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn cymhorthdal o hyd at 100% o werth y prosiect, hyd at fwyafswm cymhorthdal unigol o £30,000

Windfall yw enw gweithiol Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru, sefydliad nid-er-elw sy’n amcanu cysylltu enillion o ynni adnewyddadwy ag adfywiad cefn gwlad trwy brosiectau ynni cynaliadwy. Mae cymhorthdal i brosiectau cymunedol yn defnyddio arian a ddarparwyd yn wirfoddol gan ddatblygwyr cynhyrchu ynni a datblygiadau eraill. Ar hyn o bryd mae arian ar gael gan Amegni Ltd, sydd biau Fferm Wynt Carno. Mae cyfarwyddwyr Windfall wedi creu gwefan newydd sbon windfall.wales yn ystod y gaeaf, yn ogystal â hwyluso’r broses ymgeisio am gymorthdaliadau.

Dyweodd Andy Bull, Cadeirydd Windfall: ‘Mae’n dda calon gennym gyhoeddi’r cylch ariannu cyntaf hwn. Hoffwn annog grwpiau cymunedol i ymuno ac ymgeisio am gymorthdaliadau a allent wneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol, yn enwedig y rhai yng nghyffiniau fferm wynt Carno. Efallai fod a wnelo hyn â sefydlu camau ynni adnewyddadwy neu brosiect a fydd yn lleihau ôl troed carbon cymuned, efallai: rydym yn barod i ystyried amrywiaeth eang o gynigion.’

Mae’r elusen gynaliadwyaeth Asiantaeth Ynni Severn Wye yn rheoli’r cynllun cymhorthdal i ddosbarthu arian i ymgeiswyr llwyddiannus. Dywedodd Dave Gittins, Cyfarwyddwr Cymru Severn Wye:

Dywedodd Dave Gittins, Cyfarwyddwr Cymru Severn Wye: ‘Bydd yr ariannu hwn yn rhoi hwb pwysig i brosiectau cynaliadwyaeth ledled Maldwyn. Rydym ar binnau eisiau gweld pa syniadau ddaw ymlaen, a sut allwn helpu cymunedau lleol fwrw ymlaen â’u teithiau carbon isel.’

Manylion y cynllun

Ceir manylion llawn ar wefan Windfall ond mae’r cynllun yn chwilio’n arbennig am brosiectau sy’n ymwneud â chynhyrchu ynni adnewyddadwy; camau effeithlonrwydd ynni neu leihau’r galw; mentrau cydranedig, cymunedol a theithio llesol; a gweithgareddau addysgiadol ynglŷn â datblygu cynaliadwy.

Sut mae ymgeisio

Gall y sawl sydd â diddordeb mewn ymgeisio ganfod cyfarwyddiadau llawn a ffurflenni cais ar wefan Windfall: www.windfall.wales

Ar gyfer ymholiadau am y cynllun neu’r broses ymgeisio, e-bostiwch:

grants@windfall.wales

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau i’r cylch hwn yw 17 Mawrth 2025. Disgwylir i gylchoedd ychwanegol agor yn Ebrill ac Awst 2025