Two women looking at a brochure on energy saving tips, seen from behind their shoulders

Mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio ynni, i’w helpu i gadw’n gynnes ac yn ddiogel gartref. Mae’n genadwri sy’n mynd â’n cynghorwyr ynni cymunedol i mewn i gartrefi pobl, lle maen nhw’n aml yn gweld aelodau’r teulu, sydd fel arall yn anweledig, yn gwneud gwaith gofalu.

Achos o’r fath fu cwbl hŷn yn byw yng Nghymru. Buont yn canlyn chwaraeon a gweithgareddau cymunedol gydol eu hoes, ond pan ganfuwyd fod y gŵr yn dioddef gan haint anwelladwy ar yr ysgyfaint, fe newidiodd bopeth. Yn sydyn, yr oedd yn ddibynnol ar danc ocsigen i’w gynnal, ac ar ei wraig ân ei anghenion a’i les beunyddiol: sefyllfa a newidiodd ei bywyd hi’n gyfan gwbl, hefyd.

Gwnaethpwyd y sefyllfa anodd hon yn waeth y gaeaf diwethaf pan dorrodd eu bwyler, a chynghorodd contractwyr lleol y costiai un yn ei le rhwng £2,000 to £4,000: arian nad oedd ganddynt mohono. Bu’r Nadolig hwnnw’n un anodd, oherwydd yn ychwanegol at drafferthion iechyd ac arian, nid oedd ganddynt ond gwresogydd cludadwy bychan i’w cadw’n gynnes.

Cyfarfu ein cynghorwr â’r ddau yn eu banc bwyd lleol, lle’r oeddent yn wirfoddolwyr; ac wedi clywed am eu hamgylchiadau, ymwelodd hi â nhw gartref a helpodd hi nhw i ymgeisio am gynllun NYTH Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw’n ariannu gwelliannau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys (er syndod i’r ddau) bwyleri newydd ar gyfer pobl ag anhwylderau. Ddeng niwrnod wedi i arolygwr ddod allan i gloriannu’r sefyllfa, yr oedd y gwres canolog yn weithredol unwaith eto.

Mae bod yn dwym gartref yn bwysig i bawb ohonom, ond yn enwedig pan fo gennych anhwylder sy’n golygu y gall amgylchiadau oer fod â chanlyniadau parhaol. Diolch i gyfarfod amserol â’n cynghorwr, yr oedd gan y wraig un peth llai i boeni amdano wrth ofalu am ei gŵr: ond nid hi oedd yr unig un ar yr aelwyd oedd yn gofalu. Yn ystod ei hymweliad â’r cartref, syndod i’n cynghorwr fu gweld ymddygiad ci ifanc y cwpl, a neidiai ar y gŵr ac a’i lapiai ei hun amdano!. Dywedodd y wraig mai ymddygiad diweddar oedd hwn, fel pe gwyddai’r ci fod angen i’w berchen gadw’n dwym. Gall y tri ymlacio mewn cartref cyffyrddus a diogel, nawr.

Gall gweithwyr maes sy’n gweld pobl yn byw mewn amgylchiadau oer neu ym mherygl tlodi tanwydd eu cyfeirio’n uniongyrchol at Severn Wye gan ddefnyddio’r ffurflen hon: https://www.severnwye.org.uk/refer a gall gofalwyr gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol ar communityadvice@severnwye.org.uk.